Ffynhonell / Source:

EVAN, Edward, o Aberdare. Afalau'r Awen

sef Caniadau Moesol a Duwiol; yn cynwys anerchiadau ifyw yn weddaidd, ac i ymddwyn yn gariadus at bawb o ddynol ryw, at ba rai ychwanegwyd, Llyfr y Pregethwr, ar fesur cywydd.

Y trydydd argraffiad, ynghyd a llawer o ychwanegiadau o eiddo'r awdur. Merthyr Tydfil: T. Price, 1837


CAN XXII / Chwi feibion fy nghymydog . . .

CAN XXXIV / Clywych achwyn mab addfwyn . . .

CAN XXXVI / Pan fyddo dyn yn ifangc . . .

The Vanity of Life / Ogwel y dail [o'th amgylch] yn syrthio...


 

48-9: CAN XXII / Chwi feibion fy nghymydog . . .  |  1932 D  |  Ffynhonell - Source

Cyngor i feibion Dafydd Edward pan oeddynt yn mynd tua Lloegr.

1:
Chwi feibion fy nghymydog.
Cewch gennyf gyngor serchog,
    I ofni Duw a chadw'i arch,
A rho'i 'ddo barch calonnog.

2:
A gochel pob oferdod,
Trwy afrad bwyd a diod,
    A chwiffio'r bibell front a'r mwg;
A themtiaeth drwg fenwyod.


3:
A chofiwch brynnu'r amser,
Chwi ellwch weled llawer,
    'Nol myn'd yn hên dan benyd bwn, Waith treulio hwn yn ofer.

4:
Pan elir yn oedrannus,
A'r corph yn glaf neu'n glwyfus,
    Fe fydd y dryll fo ganddo'i hun,
I bob rhyw ddyn yn felus.

5:
Os gorfydd mewn diffygion,
Ymofyn help cyfeillion,
    Fe dd'wed y rhai'n mewn geiriau cras,
Dos ymmaith was anfradlon.

6:
Os ceir gan ryw gydymaith,
Roi bwyda gwely noswaith,
    Ni fydd ar hwn fel dyma nghred,
Ddim chwant ei weled eilwaith.

7:
Fe fydd yr hen gydwybod,
A llawer dyn yn dannod,
    Ti all'sit gadw modd i fyw,
Pe myn'sit ryw ddiwrnod.

8:
Waith porthi'r bola chwannog,
Trwy fywyd brwnt anserchog,
    Mae'r dyn yn hên mewn gofid mawr,
Heb ganddo yn awr un geiniog

9:
Am hynny blant ddeallus,
Derbyniwch hyn yn barchus,
    A chofiwch fi pan b'wyf mewn bedd,
Rhag gwel'd dialedd dilys.


 

63-4: CAN XXXIV / Clywych achwyn mab addfwyn . . .   |  CAN XXXVI  |  CAN XXXVI  |  Ffynhonell - Source

Cerdd ar ddull cwyn mab wedi cael pall gan ei gariad.

1:
Clwych achwyn mab addfwyn o'r byd,
Am seren wir lawen wawr lwys,
'Waith colli'r ddyn fanol o bryd.
Fy nghalon sy beunydd dan bwys;
Gan hiraeth rhy helaaeth oer hynt,
Am feinir dra difyr ei dawn,
Wrth feddwl mor gynnes oedd gynt,
Ei chwmpni lloer heini lle'r awn.

2:
Dwy flynedd gorfoledd a fu,
Cyfarfod lliw'r manod mor fwyn
Cyfarchiad trwy gariad mor gu,
Gwrandawai'r ddyn gynnes fy'm cwyn,
Meddyliais lle glynais mewn glyd,
Wrth glywed ei llafar a'i llais,
Mai hon fyddai mhriod rhyw bryd,
I orwedd yn fwyn wrth f'ais.

3:
Daeth dirgel oer awel ei rhyw,
I chwythu mor chwythig fy ngwaith,
Nes oeri fy seren fwyn syw,
Oedd gynnes o fynwes wir faith;
Mae'n ddiflas, d'yw bwrpas mewn byd,
Im' chwalu neu boeni fy mhen,
Wrth gymmell neu ganlyn cyhyd,
Yn erbyn ei gwyllys hi gwen.

4:
'Rwy'n canu'n iach iddi'n eich gwydd,
Gan chwennych yn fynych i'r ferch,
Bob mwynder a llawnder a llwydd,
Mewn bywyd er symmyd o'i serch;
A chymmar gwych hawddgar o hyd,
Neu gydfod a'i gweddwdod ar goedd;
Meddylied fy seren fwyn glyd,
Ddymuno i minnau'r un modd.


 

65-6: CAN XXXVI / Pan fyddo dyn yn ifangc . . .  |  Vanity of Life - O gwel y dail  |  CAN XXXIV  |  Ffynhonell - Source

Cyngor i ddynion ifaingc.

1:
Pan fyddo dyn yn ifanc a'i fyd yn ddigon llawn,
'Does arno fawr gofalon ond byw yn llawen iawn,
Ei gnawd a'i waed yn berwi ble bynna' byddo'n bod,
Heb feddwl fawr na phrisio am ddim ag sydd i dd'od.

2:
Er bod mewn cyflwr esmwyth, heb ofal yn y byd,
Mae'i feddwl yn aflonydd fel tonnau'r mr o hyd,
'Does dim yn ddiffyg arno ond cael priodi'n glau,
'Nol hynny pob dedwyddwch yn ddifyr ddaw i'r ddau.

3:
Ordeiniwyd glân briodas mewn urddas hyn sy' wir,
I 'mgadw rhag godineb trwy fywyd parchus pur,
A chynnal llwyth o ddynion yn ddeiliaid hyn o fyd,
A'u magu mewn gwir addysg trwy dduwiol freiniol fryd.

4:
Fe ddyle'r matter yma gael cyflawn feddwl dyn,
I bwyso'r peth sy'n canlyn yn araf wrtho'i hun,
'Tifaru 'nol priodi fel afal sur mewn saig,
Fe gynnal hyn rhyw gynnen o hyd rhwng gwr a gwraig.

5:
Mae chwant y dyn ei hunan a'i ffansi yn rhy ffol,
Fe welir llu mewn gofid waith rhedeg ar eu hol,
Os mynni wir ddoethineb rhaid ceisio'n ddwys gan Dduw,
Mae llygredd mawr yn perthyn i bawb o ddynol ryw.

6:
Mae'r meibion y rhan fwya', 'rwy'n dyall tymmer dyn,
A golwg fawr yn degwch, 'dyw hyn ond lliw a llûn;
Rhai merched yn rhy feddal nes d'od i dreial dryd,
A gofid am eu lleithder tra fyddont byw'n y byd.

7:
Dymunwn wel'd y iengctyd yn treulio eu bywyd bach,
Yn ddi-ddrwg gyda'u gilydd, a hynny'n llawen iach,
Gan feddwl am eu glendid yn fwy er dim a f'o,
Os collir hwn chwi welwch fe ganlyn tristwch dro.

8:
Pan weloch i chwi alwad iawn fwriad i gyd fyw,
Dan gwlwm glân briodas, gwnewch hyn trwy gyngor Duw,
Meddyliwch wedi'i wneuthur am geisio help o hyd,
I adnewyddu'ch cariad tra byddoch byw'n y byd.


 

75-78: 'The Vanity of Life' by Bishop Thorne'   |  CAN XXXVI  |  Ffynhonell - Source
THE FOLLOWING IS A TRANSLATION OF THE PRECEDING:


1:
O gwely dail o'th amgylch yn syrthio i lawr o hyd
Trwy sychder gwael gwywedig tua'r ddaear fyddar fud,
Fel hyn mae pethau meirwon yn galw'n ddwys ar ddyn,
I wrando eu llais di gymmysg er addysg iddo 'i hun.

2:
Mae pawb o eppil Adda sy' nawr yn byw'n ybyd
I ddarfod fel rhyw ddeilacc nid holl-iach 'ynt o hyd,
Mae cwymp holl flodau'r maesydd i ddyn yn arwydd wir,
Nad yw ei drigfan yma o'r hwyaddim yn hir.

3:
Moreywnion glân a lliwus mor dg eu gwedd a'u gwawr,
Sy'nbostion'n rhy ryfygus rai nwyfus yma nawr,
Rhowch olwg bwyllog beunydd ar flodau'r meusydd maith,
Sy'n llwch fel gwael ysgybion yn llwyddion ac yn llaith.

4:
Cybyddion brwnt trachwantus na allant gysgu'r nôs,
Eich gofal yw'ch difuddio a chwyno am eich oes,
Sy'n hedeg ar adenydd dan awydd 'wenydd wael,
Heb ddimoddi wrth y golud ond gofid i'w ei gael.

5:
Chwi feibion anrhydeddus sy'n disgwyl clod a nerth,
Derchafiaeth am ffiloreg mewn gwir nad yw ddim gwerth,
Fel gwynt ar wan adenydd yw'ch cynnydd ar bob cam,
Y ddaear wedi'ch balchder a'ch moethder yw eich mam.

6:
Philosophyddion hyddysg sy'n chwilio cyrrau'r byd
Gan edrych heb ddihenydd rhyw newydd ynddo o hyd,
Gorphwyswch yn y diwedd cewch rybudd genni' nawr,
Pob dalen o anghenrhaid a syrth yn llwch y llawr.

7:
Mae'r iengcted heb flinderon iawn droion yn y drych,
Yn hardd feddiandau iechyd mewn hawddfyd gwynfyd gwych,
Na'ch twyller trwy ddisgleirdeb yr hf sy'n hir barhau,
Yr Hydref sydd bron dyfod naws hynod mae'n neshau.

8:
Yn anrhydeddus dadau penllwydion waelion wedd,
Trowch yma trwy frith anfodd olygiad hwyliad hedd,
Meddyliwch fod eich mawredd o ryfedd yn byrhau,
Yn awr mae diwedd blwyddyn mor sydyn yn neshau.

9:
Fel hyn mae dadymchweliad tymhorau'r flwyddyn gron,
Yn dysgu nad hir aros yw hyd yr einios hon,
Pregethu'r gwir i ddynion mae'r pethau hyn mewn pryd,
Fe a'r nef a'rddaear heibio i bawb ar diwedd byd.

10:
Ar bren y bywyd nefol trag'wyddol ddwyfol dawn,
O dyro ddyn dy obaith am feddiant llwyddiant llawn,
Fel dyma bren blodeuog cyfoethog srchog syth,
Ei gynnyrch ni ddiflanna eu ffrwythau bar'a byth.